Sgiliau i Gymru - Adeiladwaith neu beirianneg gwasanaethau adeiladu

Cymwysterau newydd - dysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2021

View this page in English

City & Guilds | EAL fydd unig ddarparwr cyfres newydd o gymwysterau Adeiladwaith neu Beirianneg Gwasanaethau Adeiladu y gellir eu hariannu yng Nghymru. Yn barod i’w dysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2021, bydd y cymwysterau a'r prentisiaethau hyn yn dechrau helpu i symleiddio'r tirlun cymhleth o dros 400 o gymwysterau sydd ar gael yn y sector.

Ewch i wefan Sgiliau i Gymru

Mae Cymwysterau Cymru yn arwain y broses o symleiddio sgiliau a chodi safonau drwy adolygu’r system gymwysterau ar draws y sector adeiladu a'r amgylchedd adeiledig. Nododd adroddiad Cymwysterau Cymru ar Adeiladu'r Dyfodol yr angen i ad-drefnu cannoedd o gymwysterau i system gymwysterau symlach â llwybrau dilyniant clir oedd yn diwallu anghenion cyflogwyr ac economi Cymru.