wales banner

Cyflawni ein hymrwymiad i Gymru

Cyflawni ein hymrwymiad i Gymru

Mae popeth rydyn ni’n gwneud yn cefnogi pobl i gael swydd, eu helpu i ddatblygu yn y swydd a symud ymlaen at y swydd nesaf

View this page in English

Rydyn ni’n deall yr effaith bositif mae datblygiad yn cael ar gyrhaeddiad personol, llwyddiant sefydliadol a chynhyrchedd cenedlaethol.

Rydym yn gweithio gyda nifer o randdeiliaid yng Nghymru yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru, Colegau Cymru, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, NTfW a Phartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol.

Rydyn ni hefyd yn gweithio’n agos gyda Chymwysterau Cymru i ddatblygu cymwysterau contract ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant (IGCGP) ac Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (APhGA).


Ariannu Cymwysterau

Rydym yn cynnig ystod eang o gymwysterau ac mae rhestr o gymwysterau sydd wedi’u hariannu yn cael ei ddiweddaru’n aml Cymwysterau yng Nghymru, sydd wedi ei berchen a’i reoli gan Gymwysterau Cymru (CC).

Mae’r cymwysterau a restrwyd ar QiW yn gymeradwy neu yn ddynodedig gan CC ac yn gymwys ar gyfer cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru neu’r awdurdod lleol yng Nghymru.

I sicrhau bod y cymwysterau yn gallu cael eu hariannu mae rhaid iddynt fod ar QiW. Os mae cwsmeriaid angen ychwanegu cymwysterau neu eu hestyn ar QiW gallwch anfon cais wrth gwblhau’r ffurflen gais drwy glicio ar y botwm isod.

Anfon cais


Cefnogaeth ar gyfer y Gymraeg

Yn City & Guilds rydyn ni’n cydnabod pwysigrwydd cefnogi’r Gymraeg mewn pob agwedd o fywyd, ac rydym yn ymrwymedig i barhau i ffynnu wrth weithio yng Nghymru.

I gefnogi chi a’ch dysgwyr, mae gennym ymgynghorwyr cwsmer sy’n rhugl yn y Gymraeg ac rydym yn darparu sicrwydd ansawdd allanol o asesiadau sydd wedi eu cwblhau yn y Gymraeg.

Rydym hefyd yn cynhyrchu detholiad o ddeunyddiau asesu a dogfennau arall sy’n gysylltiedig â chymwysterau yn y Gymraeg. Am ragor o wybodaeth, ewch i’n catalog cynhwysfawr o ddeunyddiau yn y Gymraeg.

Gallwch geisio am ddeunyddiau cymwysterau yn y Gymraeg wrth gwblhau ffurflen ar-lein drwy glicio ar y botwm isod.

Cais am ddeunyddiau yn y Gymraeg

Cymwysterau contract

Cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant

Mae City & Guilds a CBAC wedi cydweithio, a ni yw’r unig ddarparwyr ar gyfer cyfres o gymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant a chontractiwyd gan Gymwysterau Cymru i ddarparu cymwysterau o Lefel 1 hyd Lefel 5 ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant.

View qualifications


Cymwysterau Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu

Mae City & Guilds hefyd wedi cydweithio gyda EAL i ddatblygu cyfres newydd o gymwysterau a phrentisiaethau Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu sydd ar gael ar lefel 2 a 3.

View qualifications

Ein cynnig

Sgiliau yn y gweithle

Datblygwyd gyda chyflogwyr i gefnogi darparwyr hyfforddiant a cholegau i fwyhau rhaglenni o astudiaeth er mwyn cefnogi hyfforddiant cyflogadwyedd. Mae sgiliau yn y gweithle yn gallu helpu dysgwyr i adeiladu agwedd, ymddygiad a sgiliau sydd ddim yn cael eu cynnwys mewn cymwysterau ar ben ei hun, neu sydd ddim yn gallu cael eu hachredu o fewn rhaglen gyfredol o astudiaeth.


Cymwysterau Technegol

Mae Cymwysterau Technegol City & Guilds Lefel 2 a 3 wedi eu datblygu mewn cydweithrediad â diwydiant ar gyfer dysgwyr 14-19 oed er mwyn eu darparu gyda’r sgiliau technegol perthnasol mwyaf cyfredol sydd eu hangen i lwyddo yn eu llwybr gyrfa dewisol – boed hynny ar gyfer gwaith, prifysgol neu am brentisiaeth.

Darganfyddwch ein hystod o Gymwysterau Technegol cymeradwyedig cyfredol sy’n cael eu diweddaru’n gyson gan CC.

Neu, ewch at ein gwefan Cymwysterau Technegol am ragor o wybodaeth.


Prentisiaethau

Mae fframwaith Safonau Prentisiaethau Cymru (SASW) yn amlinellu’r gofynion ar gyfer prentisiaeth yng Nghymru.

Mae ein cynnig yn cynnwys ystod o sectorau ac yn cefnogi dysgwyr a darparwyr gyda chymwysterau sy’n addas ar gyfer Cymru ac yn gydnabyddedig ar draws y DU.

Mae fframweithiau SASW yn amrywio yn dibynnu ar y diwydiant a’r lefel ac mae’r manylion yn y fframwaith unigol, ewch at ein tudalen prentisiaethau am ragor o wybodaeth.

ACW


Assured – cydnabyddiaeth o hyfforddiant byd eang

Mae ein gwasanaeth Assured yn gydnabyddiaeth ryngwladol am gymeradwyaeth ac yn fodd o wella busnes, gan ddangos i chi sut gallwch symud o hyfforddi da i hyfforddi syfrdanol.

Rydym yn gwerthuso eich rhaglenni hyfforddi yn erbyn ein meincnod i wirio os maen nhw’n cyrraedd ein meini prawf ansawdd. Dydyn ni ddim yn cwblhau beirniadaeth o gynnwys y rhaglen hyfforddi, ond byddwn yn gwneud yn siŵr ei fod yn cyrraedd anghenion eich dysgwyr ac yn cyrraedd ein safonau ansawdd. Mae’r gwasanaeth Assured yn ychwanegu gwerth at unrhyw hyfforddi pa bynnag y cynnwys, fformat neu hyd. Rydym yn cydnabod hyfforddi gwyneb-yn-wyneb ac e-ddysgu, hyfforddiant sydd wedi eu hasesu neu heb eu hasesu a hyd yn oed hyfforddiant mewn ieithoedd lleol.

Darganfyddwch mwy am ein gwasanaeth Assured neu wrth e-bostio: assured@cityandguilds.com.

Adnoddau cefnogi dysgu ac addysgu

Mae City & Guilds yn ymrwymedig i gefnogi chi a’ch dysgwyr i lwyddo wrth ddarparu chi gyda lefel o gefnogaeth sydd heb ei ail, gan sicrhau bod ganddo’ch chi’r cyngor, arweiniad ac adnoddau sydd angen arnoch i ddarparu’r profiad gorau posib i’ch dysgwyr.

Mae City & Guilds SmartScreen wedi cael ei ddylunio i arbed amser y tiwtoriaid a chynnig syniadau ac arweiniad i chi ar sut gall ein cymwysterau cael eu darparu. Gallent gael eu defnyddio fel cymorth dysgu o flaen y dosbarth neu fel cyfres i ddysgwyr gweithio arnynt yn annibynnol. Ewch i wefan SmartScreen er mwyn gweld y rhestr o gymwysterau sydd ar gael.

Rydyn ni hefyd yn cynnig adnoddau addysgu sydd nid yn unig yn helpu i greu gwersi deniadol ond yn mewnosod dysgu. Ewch i ein tudalen addysgu a dysgu am ragor o wybodaeth.

Fel canolfan sy’n cynnig cymwysterau City & Guilds, bydd gyda chi mynediad i un o’r Ymgynghorwyr Technegol. Mae ein harbenigwyr sector yn adnabod eu sectorau drwyddi draw, maen nhw’n gallu cael chi’n barod i ddarparu cymwysterau yn gyflym a darparu chi gyda chefnogaeth dechnegol pan fod angen. Hefyd, mae eich Rheolwr Busnes ymroddgar a Swyddog Ansawdd yn helpu chi ac yn sicrhau eich bod yn cyrraedd a chynnal safonau ansawdd.

Newyddion

Mae Cymwysterau Cymru wedi cadarnhau bod ein cais am y Grant Cymorth i’r Gymraeg yn llwyddiannus. Felly, byddwn yn cyfieithu rhai neu holl adnoddau yn gysylltiedig â’r Cymwysterau canlynol:

  • Tystysgrif Lefel 2 mewn Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion (STLS)
  • Diploma Lefel 4 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth
  • Dyfarniad Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddi
  • Tystysgrif Lefel 2 mewn Cynaliadwyedd
  • Tystysgrif Lefel 2  Ôl ffitio
  • Tystysgrif Dechnegol Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth
  • Diploma Lefel 3 mewn Garddwriaeth yn y gweithle
  • Dyfarniad Lefel 2 mewn Sgiliau Barista
  • Diagnosis a Chywiro Diffygion mewn Cerbydau Electrig a Hybrid Lefel 4
  • Dyfarniad Lefel 3 mewn Symud Cydrannau a’u Hailosod mewn Cerbydau Electrig Cell Danwydd Hydrogen
  • Diploma Lefel 3 mewn Defnyddwyr TG (ITQ) / Lefel 3 Diploma mewn Sgiliau Defnyddwyr TG
  • Diploma Lefel 3 mewn Therapi Harddwch 

Mae cyfieithu eisoes wedi dechrau a bydd y fersiynau Cymraeg ar gael rhwng Gorffennaf 2023 a Mawrth 2024.

  • Cylchlythyr Dysg yn darparu diweddariadau a datblygiadau sy’n effeithio ar sectorau addysg a hyfforddi ôl 16 yng Nghymru. Ewch i’r wefan am ragor o wybodaeth.
  • Ymgynghorwyr Ansawdd Allanol – mae eu hangen am raglenni Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yng Nghymru. Ceisiwch yma.