Sgiliau i Gymru - Adeiladwaith neu beirianneg gwasanaethau adeiladu

Cymwysterau newydd - dysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2021

View this page in English

Mae City & Guilds ac EAL wedi cydweithio i ddatblygu cyfres newydd o gymwysterau Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu y gellir eu hariannu yng Nghymru, a lansiwyd ym mis Medi 2021.

Datblygwyd y gyfres newydd o gymwysterau i ddiwallu anghenion sgiliau’r sector amgylchedd adeiledig yng Nghymru yn well, ac fe’i cynlluniwyd gyda chyflogwyr. Mae’r newid hwn wedi symleiddio’r dirwedd gymhleth bresennol o dros 400 o gymwysterau i ddarparu llwybrau dilyniant a chymwysterau clir a fydd yn gwneud dysgwyr yn fwy parod a hyderus ar gyfer astudio a symud ymlaen i’r gweithle.

Ewch i wefan Sgiliau i Gymru

Mae Cymwysterau Cymru yn arwain y broses o symleiddio sgiliau a chodi safonau drwy adolygu’r system gymwysterau ar draws y sector adeiladu a'r amgylchedd adeiledig. Nododd adroddiad Cymwysterau Cymru ar Adeiladu'r Dyfodol yr angen i ad-drefnu cannoedd o gymwysterau i system gymwysterau symlach â llwybrau dilyniant clir oedd yn diwallu anghenion cyflogwyr ac economi Cymru.