Grymuso Cymru gyda Sgiliau
Mae popeth rydyn ni’n gwneud yn cefnogi pobl i gael swydd, eu helpu i ddatblygu yn y swydd a symud ymlaen at y swydd nesaf.
View this page in English
Rydyn ni’n gweithio gydag amryw o randdeiliaid yng Nghymru gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru, Colegau Cymru, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, NTfW a Phartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol i enwi ond rhai.
Cymwysterau contract
Rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda Chymwysterau Cymru i ddatblygu cymwysterau contract ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant (IGCGP) ac Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (APhGA).
Cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Mae City & Guilds a’r Cydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC) wedi cydweithio, a ni yw’r unig ddarparwyr ar gyfer cyfres o gymwysterau iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant contractiwyd gan Gymwysterau Cymru, i ddarparu cymwysterau o Lefel 1 hyd Lefel 5 ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant.
Archwiliwch ein hystod o gymwysterau
Cymwysterau Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu
Mae City & Guilds wedi cydweithio gyda EAL i ddatblygu cyfres Newydd o gymwysterau a phrentisiaethau Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu sydd ar gael ar Lefel 2 a 3.
Archwiliwch ein hystod o gymwysterau
Ariannu cymwysterau
Rydym yn cynnig ystod eang o gymwysterau wedi eu rhestru ar Cymwysterau yng Nghymru (qiw) sydd wedi ei berchen a’i reoli gan Gymwysterau Cymru (CC).
Mae’r cymwysterau a restrwyd ar QiW yn gymeradwy neu yn ddynodedig gan CC ac yn gymwys ar gyfer cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru neu’r awdurdod lleol yng Nghymru.
I sicrhau bod y cymwysterau yn gallu cael eu hariannu mae rhaid iddynt fod ar QiW.
Angen ychwanegu cymhwyster neu eu hestyn ar QiW?
Cwblhewch y ffurflen
Sgiliau Hanfodol Cymru
Mae cymwysterau Sgiliau Hanfodol yng Nghymru yn cynnwys pedwar cymhwyster Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Chyflogadwyedd.
Darganfod mwy
Prentisiaethau
Mae fframwaith Safonau Prentisiaethau Cymru (SASW) yn amlinellu’r gofynion ar gyfer prentisiaeth yng Nghymru.
Mae ein cynnig yn cynnwys ystod o sectorau ac yn cefnogi dysgwyr a darparwyr gyda chymwysterau sy’n addas ar gyfer Cymru ac yn gydnabyddedig ar draws y DU.
Mae fframweithiau SASW yn amrywio yn dibynnu ar y diwydiant a’r lefel ac mae’r manylion yn y fframwaith unigol, ewch at ein tudalen prentisiaethau am ragor o wybodaeth.
Darganfod mwy
Cefnogaeth ar gyfer y Gymraeg
Rydyn ni’n cydnabod pwysigrwydd cefnogi’r Gymraeg mewn pob agwedd o fywyd, ac rydym yn ymrwymedig i barhau i ffynnu wrth weithio yng Nghymru.