Rhoi cydnabyddiaeth y Cynnig Cymraeg i City and Guilds am ymdrechion i wella’r gwasanaethau Cymraeg

Mae City and Guilds (1 Tachwedd 2023) wedi derbyn cydnabyddiaeth arbennig y ‘Cynnig Cymraeg’ gan Gomisiynydd y Gymraeg, i gydnabod ymrwymiad y sefydliad i gynnig gwasanaethau yn y Gymraeg.

15 December 2023

View this page in English

Mae’r ‘Cynnig Cymraeg’ yn cydnabod sefydliadau sy’n dangos ymrwymiad cryf i ddatblygu a gweithredu cynlluniau iaith Gymraeg cadarn ar gyfer y gwasanaethau y maent yn eu cynnig. 

Yn dilyn trafodaethau cychwynnol ym mis Ionawr 2023, bu City and Guilds yn gweithio’n agos gyda Chomisiynydd y Gymraeg i wneud gwelliannau ac i gryfhau ei gynlluniau ar gyfer cefnogi’r Gymraeg ym mhob rhan o wasanaethau’r sefydliad.  Yn seiliedig ar y canllawiau hyn, mae City and Guilds wedi cymryd camau i greu tudalen ddwyieithog ar gyfer Cymru ar ei wefan ac mae wedi creu safle mewnrwyd dwyieithog ar gyfer staff.

Drwy groesawu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg, mae City and Guilds yn ymuno â chasgliad cynyddol o sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector sy’n darparu gwasanaethau dwyieithog gwerthfawr i gwsmeriaid ledled Cymru.

Cynnig Cymraeg awardDywedodd Angharad Lloyd-Beynon, Rheolwr Polisi, Rhanddeiliad a Phartneriaethau yn City and Guilds:

“Rydym yn falch iawn o weld ein hymdrechion i gefnogi a gwella gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cydnabod gan Gomisiynydd y Gymraeg. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn cynrychioli dechrau trawiadol i’n cynllun ymgysylltu i gefnogi strategaeth Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”

Wrth longyfarch City & Guilds, dywedodd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg:

“Mae’r Cynnig Cymraeg yn rhoi cyfle i sefydliadau godi ymwybyddiaeth o’u gwasanaethau Cymraeg. Y nod yw gweld mwy o ymwybyddiaeth, a fydd yn ei dro yn arwain at gynnydd mewn gwasanaethau yn Gymraeg. 

“Mae corff uchel ei barch fel City and Guilds yn darparu gwasanaeth pwysig i unigolion, sefydliadau a chwmnïau i ddatblygu eu sgiliau. Mae ein gwaith ymchwil diweddar yn cadarnhau’n glir bod pobl ifanc yn awyddus i gwblhau cyrsiau ôl-16 yn Gymraeg ac felly mae angen i ni sicrhau bod darpariaeth ar gael iddynt. Mae’n braf gweld eu bod yn cydnabod pwysigrwydd y gwasanaethau hyn yn y Gymraeg ac o ganlyniad yn ymateb i’r galw cynyddol am wasanaethau dwyieithog. 

“Os ydym am gynyddu’r defnydd naturiol o’r Gymraeg yn ein bywydau bob dydd, mae angen i’r iaith fod yn weladwy ym mhob man, ac mae angen ei defnyddio. “Rwy’n ddiolchgar i City and Guilds am ymrwymo i’n Cynnig Cymraeg ac rwy’n annog eraill i fanteisio ar y cyfle.”

Dywedodd Kirstie Donnelly MBE, Prif Swyddog Gweithredol City and Guilds:

“Mae hyn yn newyddion gwych i City and Guilds. Hoffwn longyfarch ein tîm yn bersonol am eu gwaith caled yn gwneud i hyn ddigwydd. Rydym yn falch o gael ffordd newydd o ddangos ein hymrwymiad i’n cwsmeriaid Cymraeg ac rwy’n edrych ymlaen at weld y gwasanaeth hwn yn tyfu yn y dyfodol.  

“Drwy gymryd camau i ddyrchafu gwasanaethau yn Gymraeg a’u hamlygrwydd, mae City and Guilds yn creu cyfleoedd mwy cynhwysol i agor drysau i ddysgwyr a phartneriaid. Mae’r anrhydedd hon yn garreg filltir allweddol yn ein taith barhaus i gefnogi a dathlu ein cwsmeriaid Cymraeg yn well.” 

Rhagor o wybodaeth am ein gwaith yng Nghymru